Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 6 Ebrill 2017
Amser: 09.00 -
12.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3854
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC a Rhianon Passmore AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Melanie Field, Cyfarwyddwr Gweithredol, Strategaeth a Pholisi Cymru a Chorfforaethol, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
· June Milligan - Comisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chadeirydd Pwyllgor Cymru
2.2 Cytunodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i roi adborth ynghylch pryderon yr Aelodau am sut mae hawliau dynol yn cael eu cynnwys yn y cwricwlwm i Bwyllgor Cymru, ac i ddarparu nodyn am unrhyw drafodaethau a gynhelir.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dr Simon Hoffman, Athro Cyswllt, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe
· Yr Athro Thomas Glyn Watkin, cyn Bennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor a Chwnsler Deddfwriaethol cyntaf Cymru 2007-2010
4.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Gweithiwr Asiantaeth.
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Chyllid Cymunedau yn Gyntaf.
4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y cwmpas a'r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arnynt.